Cynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu / The Culture, Welsh Language and Communications Committee

Radio yng Nghymru / Radio in Wales

CWLC(5) RADIO04

Ymateb gan Global / Evidence from Global

Cyflwyniad:

1.        Mae Global yn un o brif grwpiau cyfryngau ac adloniant y byd gyda phortffolio o rai o'r brandiau, digwyddiadau a gwyliau cyfryngau mwyaf parchus. Rydym yn gartref i Heart a Capital, dau o'r brandiau radio masnachol mwyaf yng Nghymru. Yn ogystal a hynny rydym yn darlledu Classic FM, LBC, Smooth, Radio X, a Capital XTRA yng Nghymru a ledled gweddill Prydain.

 

2.        Mae Heart Wales yn cael ei ddarlledu o'n Canolfan Ddarlledu yng Nghaerdydd a Capital Gogledd Orllewin a Chymru, a Capital Cymru o'n Canolfan Ddarlledu yn Wrecsam. Mae Communicorp UK yn gweithredu Capital South Wales a Heart North Wales ar wahân o dan gytundebau trwydded brand. Bob wythnos, mae bron i 1.2m o oedolion Cymru yn gwrando ar un o'n brandiau radio, 45% o oedolion Cymru.

 

3.        Rydym yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl ar radio yng Nghymru. Isod rydym yn nodi ein hasesiad o rôl bwysig radio yng Nghymru gyda ffocws penodol ar newyddion, ac yn dilyn cynigion polisi diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar reoleiddio radio masnachol yn y dyfodol.

Gwrando ar radio yng Nghymru:

4.        Mae 90% o oedolion yng Nghymru yn gwrando ar y radio o leiaf unwaith yr wythnos, gan wrando dros 22 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Mae gwrando ar y radio yng Nghymru yn parhau i dyfu, gyda chyfanswm o oriau gwrando radio yn cynyddu 6% yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

5.        Fodd bynnag, mae'r twf o wrando ar y radio yn celu newid graddol ond sylweddol yn y defnydd o radio ymysg gwrandawyr iau. Mae 85% o bobl ifanc 15-24 oed yng Nghymru yn gwrando ar y radio o leiaf unwaith yr wythnos, dim ond ychydig yn is na'r 88% o bobl 15-24 oed oedd yn gwrando 10 mlynedd yn ôl, ond mae’r oriau gwrando yn llai. 10 mlynedd yn ôl, roedd bobl ifanc 15-24 oed yng Nghymru yn gwrando ar y radio am gyfartaledd o 19 awr yr wythnos. Mae hyn bellach wedi gostwng i 16 awr yr wythnos, gostyngiad o 16%. Mae hyn yn ganlyniad i’r dewis helaeth o gyfryngau sydd ar gael heddiw ar y rhyngrwyd megis Youtube a Spotify yn ogystal â thwf cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter a Snapchat.

 

6.        Symudiad graddol ond arwyddocaol arall yw twf gwrando ar wasanaethau radio'r DU, a'r dirywiad cymharol wrth wrando ar wasanaethau darlledu i ardal leol neu ranbarth neu ddarlledu ledled Cymru. 10 mlynedd yn ôl, roedd gwasanaethau darlledu ledled y DU yn cynrychioli 60% o'r holl wrando ar y radio yng Nghymru, ond mae'r ffigwr hwn wedi cynyddu'n raddol i gyrraedd 70% heddiw. Bellach, mae radio lleol a rhanbarthol, gan gynnwys y rhai sy'n darlledu ar draws Cymru drwy'r BBC a radio masnachol, yn cynrychioli dim ond 30% o gyfanswm gwrando ar y radio.

 

7.        Mae'r tueddiadau hyn mewn gwrando rhwng gwrandawyr iau a hyn, a rhwng gwasanaethau'r DU ar yr un ochr a gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenhedloedd ar y llall, yn gyson ledled y DU.

 

8.        Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Ofcom yn 2013 ynglyn â radio masnachol yn cefnogi ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud i bobl wrando ar orsaf radio leol benodol. Cerddoriaeth oedd y math pwysicaf o gynnwys a werthfawrogwyd gan 83% o'r gwrandawyr i radio masnachol lleol yn y DU. Mae gwrandawyr ledled y DU, gan gynnwys Cymru, yn gwerthfawrogi’r newyddion a dyma'r ail fath o gynnwys sy’n cael ei werthfawrogi mwyaf ar orsafoedd masnachol lleol, sef 45%. Yn dilyn y newyddion mae’r tywydd (35%) a thraffig a theithio (34%). Mae ymchwil Ofcom yn dangos yn glir bod cynulleidfaoedd yn gwerthfawrogi newyddion a gwybodaeth leol, ond prif reswm y gwrandäwr dros ddewis gorsaf radio yw'r gerddoriaeth, nid argaeledd gwybodaeth leol.

 

9.        Mae'r 10 mlynedd diwethaf wedi gweld twf dramatig mewn argaeledd gorsafoedd radio newydd ar gael ar lwyfannau digidol, yn enwedig radio digidol DAB. Mae'r gorsafoedd newydd hyn yn darlledu ledled y DU, gan wahaniaethu eu hunain gyda’r math o gerddoriaeth a chwaraeir ac nid ydynt yn cario newyddion neu wybodaeth leol neu ranbarthol. Mae'r newid graddol o wrando ar wasanaethau lleol a rhanbarthol i wrando ar wasanaethau'r DU, o leiaf yn rhannol, yn ganlyniad i'r twf mewn gorsafoedd radio digidol newydd ledled y DU.

 

10.     Mae'n amlwg yn bwysig nid yn unig y gall y sector radio yn gyffredinol barhau i ffynnu yn wyneb cystadleuaeth gynyddol i wrandawyr o wasanaethau rhyngrwyd a ffrydio newydd, ond hefyd bod gorsafoedd lleol a rhanbarthol hefyd yn gallu cystadlu'n effeithiol. Os na all gwasanaethau lleol, rhanbarthol a gwledydd gystadlu am wrandawyr yn yr oes ddigidol, ni fydd gwrandawyr mwyach yn gallu clywed y newyddion a'r wybodaeth leol, ranbarthol a cenedlaethol y maent yn eu gwerthfawrogi.

 

Pwysigrwydd Newyddion Radio:

11.     Mae Arolwg Defnyddio Newyddion Ofcom a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017 yn dangos bod 31% o oedolion yng Nghymru yn defnyddio newyddion radio - canran uwch na phapurau newydd wedi'u hargraffu. Yn 2017, cafodd ymchwil newydd ei gomisiynu gan RadioCentre ynglyn â phwysigrwydd newyddion radio masnachol. Dangosodd yr ymchwil 'hwn mai radio ledled y DU yw'r ffynhonnell fwyaf poblogaidd ar gyfer diweddariadau newyddion rheolaidd, gan guro'r holl gyfryngau eraill. Yn ogystal â hynny radio w'r ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd yn y bore, a dyma'r cyfrwng mwyaf poblogaidd ar gyfer diweddariadau newyddion yn ystod argyfyngau lleol.

 

12.     Yn Global, rydym yn falch iawn o'n hallbwn newyddion lleol yng Nghymru. Yn flynyddol, rydym yn cynhyrchu mwy na 29,000 o fwletinau newyddion yng Nghymru, cyfanswm o oddeutu 760 awr, gan gyflogi saith newyddiadurwr darlledu yng Nghaerdydd a Wrecsam. O'r bwletinau hynny, darlledir dros 3,000 yn y Gymraeg ar ein gorsaf Gymraeg, Capital Cymru. Yn ystod y 12 mis diwethaf, yr ydym wedi ymdrin â straeon arwyddocaol o Gymru gan gynnwys marwolaeth yr AC Carl Sargeant a'r is-etholiad dilynol, ymosodiad derfysgol Finsbury Park, llifogydd dinistriol ar draws Gogledd Cymru a Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

 

13.     Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Ofcom, RadioCentre a'r Comisiwn Ewropeaidd i gyd yn cadarnhau mai radio yw'r cyfrwng mwyaf dibynadwy ar gyfer newyddion. Mae amddiffyn y ffynhonnell werthfawr hon o newyddion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn amlwg yn hanfodol wrth i lwyfannau digidol barhau i dyfu.

 

Cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer Diwygio Rheoleiddio

14.     Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ei gynigion ar gyfer rheoleiddio radio masnachol yn y dyfodol yn dilyn cyngor gan Ofcom ac ymgynghoriad cyhoeddus ledled y DU. Mae'r cynigion yn cynnwys cynlluniau i ddileu'r rheolau sy'n rheoli'r gorsafoedd radio masnachol cerddorol ar hyn o bryd, i gael gwared â'r gofyniad i gynhyrchu rhywfaint o gynnwys nad yw'n newyddion o fewn rhanbarthau diffiniedig Ofcom, a chynigion i sicrhau bod newyddion a gwybodaeth leol yn parhau i gael eu darparu gan orsafoedd radio fasnachol leol ar ôl newid i ddigidol yn y dyfodol.

 

15.     Mae Global wedi croesawu cynigion Llywodraeth y DU gan ein bod yn credu y byddant yn rhoi cymorth i radio masnachol i barhau i ffynnu yn yr 21ain ganrif a hefyd y bydd y sector yn parhau i ddarparu newyddion a gwybodaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol.

 

16.     O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae Ofcom yn gosod amodau ar orsafoedd radio masnachol analog lleol i benderfynu’r cymysgedd o gerddoriaeth y gallant ei chwarae. Mae'r gofynion hyn yn dyddio'n ôl i Ddeddfau Darlledu 1990 a 1996 a Deddf Cyfathrebiadau 2003. Cyn dyfodiad y rhyngrwyd a gwasanaethau cerddoriaeth ar-lein a thwf radio digidol DAB, ystyriwyd bod y rheoliadau hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod ystod o wasanaethau radio ar gael ledled y DU. Gall gwrandawyr nawr ddewis o ddwsinau o wasanaethau radio digidol, cannoedd o filoedd o wasanaethau radio ar-lein trwy wasanaethau rhyngrwyd megis TuneIn neu greu rhestr o ganeuon eu hunain gan ddefnyddio gwasanaethau fel Spotify. Nid yw'r rheoliadau ar fformatau cerdd yn angenrheidiol ar gyfer gorsafoedd radio masnachol lleol bellach i ddiogelu dewis a dim ond i gyfyngu ar ryddid y sector i arloesi. Felly mae cefnogaeth Global ar gyfer dileu'r rheoliadau hyn yn  gefnogaeth gref.

 

17.     Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys newidiadau i'r drefn reoleiddio er mwyn sicrhau, pe bai radio yn newid i ddigidol yn y dyfodol, byddai'n ofynnol i orsafoedd lleol a rhanbarthol sy’n darlledu ar radio digidol DAB yn parhau i ddarlledu newyddion a gwybodaeth leol, fel ag y mae nhw ar FM. Tydi’r union ddull ar gyfer hyn heb ei benderfynnu. Fel y trafodwyd uchod, barn Global yw bod gwrandawyr yn gwerthfawrogi newyddion a gwybodaeth leol ar orsafoedd leol, a chredwn ei fod o ddiddordeb fasnaschol i weithredwyr i barhau i ddarparu newyddion a gwybodaeth leol. Rydym yn disgwyl i barhau i ddarparu newyddion a gwybodaeth leol ar ein gorsafoedd lleol a rhanbarthol ar radio digidol DAB. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod diffyg gofyniad eglur yn y fframwaith rheoleiddiol presennol ar ôl newid posibl yn y dyfodol yn peri pryder i hapddalwyr ac felly rydym yn cefnogi'r newid hwn mewn egwyddor.

 

18.     Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu dileu'r rheoliadau sy'n gofyn am orsafoedd radio masnachol analog lleol i gynhyrchu "cyfran addas" o raglenni o fewn ardal neu ranbarth lleol a ddiffiniwyd gan Ofcom. Yr ydym yn cefnogi'r newid hwn yn gryf. Trwy ddileu'r rheolau cynhyrchu lleol, bydd y newidiadau rheoleiddiol hyn yn galluogi gorsafoedd lleol a rhanbarthol yng Nghymru i barhau i gystadlu â gwasanaethau clywedol eraill yn yr oes ddigidol, wrth gynnal y ddarpariaeth o newyddion a gwybodaeth leol gywir a diduedd. Bydd y newid yn rhoi mwy o hyblygrwydd i weithredwyr gorsafoedd lleol a rhanbarthol ar sut y maent yn darparu eu gwasanaethau ac felly'n sicrhau eu bod yn gallu parhau i fuddsoddi mewn a thyfu cynulleidfaoedd. Bydd gofyn i orsafoedd lleol barhau i gynnal adnoddau newyddiadurol sydd wedi'u hyfforddi'n briodol yn y meysydd y maent yn eu gwasanaethu, ond bydd ganddynt fwy o hyblygrwydd ar sut a ble mae rhaglenni'n cael eu gwneud. Mae'r dewis arall, sef pe bai'r rheoliadau hyn yn cael eu cadw, yn peryglu tanseilio darpariaeth cynnwys leol yn y dyfodol. Yn ein barn ni, mae angen i unrhyw reoliad sy'n gosod baich anghymesur ar orsafoedd lleol neu ranbarthol o'i gymharu â gorsafoedd cenedlaethol neu wasanaethau ar-lein heb drwydded gael eu hystyried yn ofalus iawn, gan y gall rheoliad arwain at ganlyniadau anfwriadol yn hawdd, fel er enghraifft, pan roedd Radio'r Cymoedd yn gorfod cau yn 2009 wedi i Ofcom wrthod rhoi caniatâd i'r cyfleusterau rhannu gorsaf gyda chwaer orsaf yn Abertawe.

 

19.     Mewn marchnad gynyddol gystadleuol, mae gweithredwyr gorsafoedd radio yn gorfod penderfynu ble i fuddsoddi adnoddau cyfyngedig. Credwn y dylai'r rhai sy’n gosod y rheolau annog buddsoddi mewn cynnwys newyddion a gwybodaeth leol sydd â gwerth uchel ar gyfer y cyhoedd. Mae'r ymchwil sydd ar gael yn awgrymu bod gwrandawyr yn cytuno. Cafodd Kantar Media ei gomisiynu gan Ofcom i gynnal ymchwil yn 2015 a gofynnodd i wrandawyr eu hoffterau ar gyfer cynnwys ar orsafoedd radio masnachol lleol rhwng (i) bwletinau newyddion lleol a gwybodaeth leol trwy gydol y dydd, ond dim cyflwynwyr yn lleol, (ii) cyflwynwyr lleol yn ystod amseroedd penodol o'r dydd ond dim bwletinau newyddion lleol na diweddariadau gwybodaeth leol y tu allan i'r amseroedd hyn, neu (iii) cyflwynwyr lleol, ond dim bwletinau newyddion lleol neu wybodaeth leol. Roedd yn well gan 76% o'r ymatebwyr yr opsiwn cyntaf gyda dim ond 15% yn dewis yr ail opsiwn dros y cyntaf.

 

20.     Bydd y newidiadau rheoleiddiol hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i weithredwyr ar sut maen nhw'n dewis teilwra eu rhaglenni ar gyfer eu gwrandawyr a byddant yn helpu'r sector i barhau i fuddsoddi a thyfu, er lles yr holl wrandawyr.